Course summary
Mae’r Astudiaethau Celtaidd (MA) yn rhaglen dysgu o bell unigryw sy’n cynnig i fyfyrwyr a chanddynt ddiddordeb yn y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd gyfle i astudio amryw agweddau ar hanes, llenyddiaeth a threftadaeth ddiwylliannol y rhanbarthau Celtaidd yn eu cartrefi eu hunain.
Modules
Tyst Ôl-raddedig, Dip Ôl-raddedig ac MA Cysyniadu’r Celtiaid (30 credyd; gorfodol) Mae’r modiwl hwn yn rhoi dealltwriaeth feirniadol i fyfyrwyr o gyd-destun a chefndir ehangach hunaniaeth, iaith a hanes Celtaidd ac yn galluogi myfyrwyr i asesu a gwerthuso’n feirniadol gwahanol ddehongliadau o hunaniaeth ddiwylliannol y Celtiaid. Arthur Celtaidd a Chwedlau’r Mabinogi (30 credyd; gorfodol) Mae’r modiwl hwn yn rhoi i fyfyrwyr ddealltwriaeth systematig o bwysigrwydd cynnwys, cyd-destun, diwylliannol a hanesyddol Pedair Cainc y Mabinogi ac yn archwilio ystod o ffynonellau Arthuraidd Celtaidd canoloesol. Dip Ôl-raddedig ac MA Merched yn y Canol Oesoedd: Ffynonellau o’r Rhanbarthau Celtaidd (30 credyd; dewisol) Mae’r modiwl hwn yn rhoi i fyfyrwyr wybodaeth uwch o’r ystod gymhleth o ffynonellau sy’n bodoli mewn perthynas â bywydau merched y canol oesoedd yn y rhanbarthau Celtaidd. Sancteiddrwydd, Ysbrydoldeb a Bucheddau’r Saint Celtaidd (30 credyd; dewisol) Yn y modiwl hwn, bydd myfyrwyr yn ystyried yn fyr cefndir cyn-Gristnogol ysbrydolrwydd Celtaidd a chysyniad y ‘derwydd’; ystyried dyfodiad Cristnogaeth i Gymru ac Iwerddon a chael eu hannog i werthuso’n feirniadol cysyniad ‘Cristnogaeth Geltaidd’; olrhain datblygiad bucheddau’r saint fel genre ac ystyried y dystiolaeth ar gyfer nifer o gyltiau’r seintiau yn y rhanbarthau Celtaidd gan archwilio ffynonellau fel bywydau seintiau, barddoniaeth canoloesol, ffynhonnau sanctaidd a chysegriadau eglwysi, llên gwerin a thraddodiadau llafar. Cymraeg i Ddechreuwyr (30 credyd; dewisol) Mae’r modiwl hwn yn caniatáu i fyfyrwyr ddatblygu dealltwriaeth a gwerthfawrogiad o ramadeg, cystrawen a geirfa’r Gymraeg a chaffael sgiliau cyfathrebu cyffredinol yn y Gymraeg. Adfywiadau Celtaidd: 1700 i’r Presennol (30 credyd; dewisol) Bydd y modiwl hwn yn rhoi gwybodaeth eang a manwl i fyfyrwyr o’r ffyrdd y mae testunau a syniadau a dynnwyd o lenyddiaeth, hanes ac ysgolheictod Celtaidd wedi’u derbyn mewn diwylliant modern. Bydd y modiwl yn rhoi trosolwg manwl u fyfyrwyr i fudiadau ‘Adfywiad Celtaidd’, gan ganolbwyntio’n benodol ar ‘adfywiad Barddol’ yng Nghymru a’r Alban, a’r Adfywiad Gwyddelig ar droad yr ugeinfed ganrif. Bydd y modiwl yn gorffen trwy adfyfyrio ar dderbyn ac adfywio’r Celtiaid yn niwylliant yr ugeinfed ganrif a’r unfed ganrif ar hugain, yn cynnwys arwyddocâd themâu Celtaidd wedi’u hadfywio mewn llenyddiaeth ffantasi gyfoes, crefydd neo-baganaidd, a meddylfryd cenedlaethol. MA Traethawd Hir (60 credyd; gorfodol) Rhoddir y cyfle i fyfyrwyr ymchwilio’n fanwl i bwnc sydd wedi apelio’n arbennig iddynt ac ysgrifennu traethawd hir 15,000 estynedig.
Entry requirements
Applicants are expected to have a good first degree (a first or upper second), although every application is considered in its own merit, so places may be offered on the basis of professional qualification and relevant experiences. Candidates with a lower degree classification or no degree may be admitted at Postgraduate Certificate or Diploma level, with an opportunity to upgrade to Master’s level if satisfactory progress is made.
Fees and funding
Tuition fees
EU | £7800 | Whole course |
England | £7800 | Whole course |
Northern Ireland | £7800 | Whole course |
Scotland | £7800 | Whole course |
Wales | £7800 | Whole course |
Channel Islands | £7800 | Whole course |
International | £15000 | Whole course |
Tuition fee status depends on a number of criteria and varies according to where in the UK you will study. For further guidance on the criteria for home or overseas tuition fees, please refer to the UKCISA website .
Additional fee information
Provider information
University of Wales Trinity Saint David
College Road
Carmarthen
SA31 3EP