Course summary
Mae galw mawr am raddedigion sy’n meddu ar sgiliau cyfathrebu soffistigedig ac sydd hefyd yn deall materion fel statws cyfreithiol y Gymraeg, hawliau iaith, y dylanwadau ar y Gymraeg heddiw a sut y gellir cynllunio’n effeithiol ar gyfer dyfodol yr iaith. Yng ngeiriau Comisiynydd y Gymraeg: “Mae galw sylweddol ar hyn o bryd yn y meysydd gofal ac iechyd, gweinyddiaeth gyhoeddus, heddluoedd a sefydliadau trydydd sector. Mae’r cwrs hwn i’w groesawu fel cam tuag at greu gweithlu’r dyfodol.” Mae’r cwrs BA Cymraeg: Iaith, Cyfraith a Pholisi’n cynnwys modiwlau fel: Amlddiwylliannedd a’r Gymraeg: Mae’r modiwl hwn yn edrych ar sut y mae syniadau am iaith, diwylliant a chenedl wedi datblygu yn ystod y canrifoedd diwethaf. Edrychir yn benodol ar dwf amrywiaeth heddiw a’r ffyrdd o ddelio gyda hyn. Edrychir ar sut y mae’r Gymraeg yn cael ei chynnwys a’i heithrio o drafodaethau ar amrywiaeth a pha fath o Gymru y gellir ei dychmygu yn y dyfodol. Cymraeg Ddoe a Heddiw: Yn rhan gyntaf y modiwl, byddwn yn ystyried prif gyfnodau hanes a datblygiad yr iaith Gymraeg o gyfnod y Frythoneg i gyfnod Cymraeg Canol. Yn ail ran y modiwl, byddwn yn astudio dylanwadau cymdeithasol ar yr iaith Gymraeg. Rhoddir sylw penodol i drin a dehongli data’r Cyfrifiad. Gyda’r twf mewn addysg Gymraeg, technoleg a mewnfudo, beth yw’r heriau a’r cyfleoedd i’r iaith Gymraeg heddiw? Gyda dylanwad y Saesneg ar y Gymraeg, pa fath o Gymraeg sy’n ‘safonol’ erbyn heddiw? Statws y Gymraeg: Dyma fodiwl sy’n cynnig trosolwg hanesyddol o statws cyfreithiol yr iaith Gymraeg. I ddechrau, dadansoddir y Gymraeg fel iaith llywodraeth a chyfraith o gyfnod yr oesoedd canol i’r cyfnod modern cynnar. Yna, bydd myfyrwyr yn edrych ar ymgyrchoedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg i adfer yr iaith yn y llysoedd, cyn edrych yn fanwl ar ddeddfau iaith yr ugeinfed ganrif yn 1942, 1967 a 1993. Ystyrir i ba raddau y llwyddwyd i adfer y Gymraeg ym mywyd swyddogol Cymru yn yr ugeinfed ganrif. Byddwch yn cael eich dysgu gan ddarlithwyr sy’n cynghori ac yn cydweithio â Llywodraeth Cymru ar faterion fel y rhai uchod. Ymhlith staff yr Adran, mae Prifeirdd, awduron o fri ac enillwyr cystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn. Ceir cyfradd bodlonrwydd cyffredinol o 100% ymhlith myfyrwyr Adran y Gymraeg, Abertawe. Dyma a ddywed rhai o’n myfyrwyr am Adran y Gymraeg, Prifysgol Abertawe: “Y penderfyniad i astudio ym Mhrifysgol Abertawe oedd penderfyniad gorau fy mywyd. Mae fy amser yn y brifysgol wedi bod yn un bythgofiadwy, o ran fy astudiaethau a’m bywyd cymdeithasol. O ran yr Adran Gymraeg, maen nhw mor gefnogol. Ar unrhyw adeg, gallaf anfon e-bost at aelod o staff, neu fynd i’w swyddfa, a byddant yn barod i dreulio amser yn gweithio gyda fi.” (Rebecca Morgan) “Mae cael bod mewn adran gartrefol, mewn dinas mor fywiog a diddorol, a hynny o fewn deng munud i draethau’r Gŵyr yn gwneud Abertawe yn brifysgol fendigedig i astudio ynddi hi. Mi fyddai’n anodd meddwl am le brafiach.” (Grug Muse)
How to apply
This is the deadline for applications to be completed and sent for this course. If the university or college still has places available you can apply after this date, but your application is not guaranteed to be considered.
Application codes
- Course code:
- Q565
- Institution code:
- S93
- Campus name:
- Singleton Park Campus
- Campus code:
- -
Points of entry
The following entry points are available for this course:
- Year 1
Entry requirements
Qualification requirements
A level - BBB
Extended Project
English language requirements
For applicants whose first language is not English we require a minimum overall IELTS score of 6.0 (or equivalent) and no less than 5.5 in each component.
English Language Requirements at Swansea University
https://www.swansea.ac.uk/admissions/english-language-requirements/
Student Outcomes
There is no data available for this course. For further information visit the Discover Uni website.
Fees and funding
Tuition fees
No fee information has been provided for this course
Additional fee information
Provider information
Swansea University
Singleton Park
Swansea
SA2 8PP